Toggle menu

Tystysgrif clybiau

Fel yr Awdurdod Trwyddedu i Gaerdydd, rydym yn awdurdodi cyflenwad alcohol, adloniant neu gyflenwi bwyd poeth gyda'r nos o safleoedd unigol.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais, dylech ddarllen ein canllawiau gwneud cais am drwydded safle clwb​​​​​​​​​ (PDF, 233 KB).

Gwneud Cais Ar-lein:

Gwneud cais drwy'r post:

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom drwy e-bost neu'r post:

Cyngor Caerdydd, Trwyddedu,
Enterprise House,
127 i 129 Stryd Bute,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF10 5LE

E-bost: [email protected]

Ynghyd â'r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • cynllun o'r eiddo
  • atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â'r pedwar nod trwyddedu)
  • y ffi gywir
  • Copi o lyfr rheolau'r clwb

Rhaid i'r ceisydd hefyd gyflwyno copi o'r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i'r awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu'r cyngor.

 

Faint fydd cost trwydded?

Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae'r ffioedd yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig (NDRV) y safle. Gallwch weld pob ffi yn ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (PDF, 268 KB).

Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand A at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.

Gallwch dalu fel a ganlyn:

Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 030 0123 6696)

Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')

Gallwch hefyd dalu drwy BACS:

  • Cod didoli: 52-21-06
  • Rhif cyfrif: 20408838
  • Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR

Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i'r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno'r drwydded.

Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, sef:

  • atal trosedd ac anrhefn
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelwch y cyhoedd
  • amddiffyn plant rhag niwed

    Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu'r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â'r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.

    Os cynhelir gwrandawiad, gall y Dystysgrif gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.

     

    Rhagor o wybodaeth

    Mae'r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.

    Datganiad o Bolisi Deddf Trwyddedu (PDF, 1 MB)

     

    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni

    Cysylltu â ni


    Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

    Ffôn: 030 0123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.
    ​​​​​​​

    Trwyddedu Cyngor Caerdydd

    Ffôn: 029 2087 1651

    Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.