Toggle menu

Trwydded sefydliad rhyw

Mae angen trwydded sefydliad rhyw i weithredu siop ryw, sinema ryw neu leoliad adloniant rhywiol.

Ein rôl ni fel awdurdod trwyddedu yw gweinyddu'r gyfundrefn drwyddedu yn unol â'r gyfraith.

Rydym wedi mabwysiadu atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf yr Heddlu a Throseddu 2009). Cyflwynodd Adran 27 Deddf yr Heddlu a Throseddu gategori newydd o sefydliad rhyw a elwir yn 'lleoliad adloniant rhywiol'.

Dan y ddeddfwriaeth hon diffinnir safle adloniant rhyw fel "unrhyw safle y darperir 'adloniant perthnasol' ynddo gerbron cynulleidfa fyw er budd ariannol y trefnydd neu'r difyrrwr." Yn gyffredinol, deellir bod 'Adloniant perthnasol' yn cynnwys dawnsio glin, dawnsio polyn, dawnsio bwrdd, sioe stripio, sioe sbecian a sioeau rhyw byw.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn a gall natur y disgrifiadau yn amrywio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Canllaw y Swyddfa Gartref (165kb PDF).

Ystyr siop rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir ar gyfer busnes sy'n cynnwys gwerthu, llogi, cyfnewid, benthyca neu arddangos eitemau rhyw neu bethau eraill i'w defnyddio mewn cysylltiad â gweithgarwch rhywiol.

Caiff sinema rhyw ei diffinio fel unrhyw safle a ddefnyddir i arddangos darluniau byw, sy'n ymwneud yn bennaf â phortreadu gweithgaredd rhywiol.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen ein hamodau sefydliad rhyw a'n polisi trwyddedu sefydliad rhyw.​ (PDF, 331 KB).

Gwneud Cais Ar-lein

Gwneud cais drwy'r post

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom drwy e-bost neu'r post:

Cyngor Caerdydd, Trwyddedu,
Enterprise House,
127 i 129 Stryd Bute,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF10 5LE

E-bost: [email protected]

Bydd angen i chi hysbysebu eich cais ar y safle a ger y safle ac mewn papur newydd sy'n cael ei ddosbarthu yn ardal y safle.

Rhaid dangos yr hysbysiad ar y safle am 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r cais. Rhaid cyhoeddi hysbysiad yn y papur newydd cyn pen 7 diwrnod ar ôl cyflwyno'r cais.

 

Faint fydd cost trwydded?

Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.

Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn Debyd (dros y ffôn - 030 0123 6696)
  • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')

Gallwch hefyd dalu drwy BACS:

Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838​
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr Adran Drwyddedu'n ymgynghori â'r Heddlu, y Gwasanaeth Tân, yr awdurdod cynllunio, gwasanaethau plant, cynrychiolwyr busnes lleol a chynghorwyr y ward leol. Cynhelir cyfnod ymgynghori am 28 diwrnod o'r dyddiad y daw'r cais i law.

Y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd fydd yn penderfynu ar geisiadau i ddyfarnu, adnewyddu neu drosglwyddo ceisiadau sefydliad rhyw. Caiff y gwaith o benderfynu ar geisiadau i adnewyddu trwydded ei ddirprwyo i swyddogion, onid ydym yn cael sylwadau perthnasol - os felly, caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd.

Yn gyffredinol caiff cais am drwydded ei wrthod ar y sail a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1975.

Gall trwydded hefyd gael ei gwrthod os yw'r Cyngor o'r farn bod:

  • yr ymgeisydd o dan 18 oed
  • mae trwydded yr ymgeisydd wedi cael ei diddymu ystod y flwyddyn ddiwethaf
  • nid yw'r ymgeisydd wedi bod yn byw yn y DU yn ystod y chwe mis olaf
  • mae'r ymgeisydd yn gwmni, nad yw'n gwmni yn y DU
  • mae cais yr ymgeisydd ar gyfer y safle wedi cael ei wrthod yn ystod y deuddeg mis olaf.

Gall trwydded hefyd gael ei wrthod os yw'r Cyngor o'r farn bod:

  • Yr ymgeisydd yn anaddas i gael trwydded am ei fod wedi cyflawni trosedd, neu am unrhyw reswm arall
  • y câi'r busnes ei reoli neu ei weithredu er budd person, heblaw am yr ymgeisydd, a gâi wrthod trwydded pe byddai wedi cyflwyno'r cais ei hun.
  • nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal leol yn fwy nag sy'n briodol i'r ardal ym marn y Pwyllgor.
  • byddai dyfarnu'r drwydded yn amhriodol o ystyried: - (i) cymeriad yr ardal dan sylw; neu (ii) y defnydd a wneir o unrhyw safleoedd eraill yn yr ardal gyfagos; neu (iii) gynllun, cymeriad, neu gyflwr y safle.
  • byddai dyfarnu'r drwydded yn amhriodol o ystyried: - (i) cymeriad yr ardal dan sylw; neu (ii) y defnydd a wneir o unrhyw safleoedd eraill yn yr ardal gyfagos; neu (iii) gynllun, cymeriad, neu gyflwr y safle.

 

Rhagor o wybodaeth

Caiff trwyddedau sefydliad rhyw eu dyfarnu am flwyddyn a chânt eu hadolygu bob blwyddyn.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

Ffôn: 030 0123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.

Trwyddedu Cyngor Caerdydd

Ffôn: 029 2087 1651

Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.

Gweler hefyd