Toggle menu

Trwyddedau triniaethau arbennig

Gwybodaeth am drwyddedau triniaethau arbennig a sut i wneud cais am drwydded.

Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cyflwyno cynllun trwyddedu newydd mewn perthynas â'r triniaethau arbennig canlynol:

  • aciwbigo
  • tatŵio
  • tyllu'r corff, ac
  • electrolysis.

Bydd angen i ymarferwyr gael trwydded triniaethau arbennig.

Bydd angen i fusnesau gael tystysgrif cymeradwyaeth ar gyfer eiddo neu gerbydau.

Cyn gwneud cais am drwydded triniaethau arbennig, bydd yn rhaid i ymarferwyr gwblhau Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer triniaethau arbennig.

Darganfyddwch fwy am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ar wefan Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd.

Darllenwch fwy am y gofynion trwyddedu a gyflwynwyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.

Gwneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais briodol a'i dychwelyd atom yn y post i:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Enterprise House,
127 i 129 Stryd Bute,
Caerdydd,
CF10 5LE

Neu drwy e-bost i [email protected].

Gwneud cais am dystysgrif cymeradwyaeth (PDF, 520 KB)

Gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig (PDF, 405 KB)

Ffioedd ymgeisio

  • Trwydded triniaeth arbennig 3 blynedd:
    ffi ymgeisio o £159, sy'n daladwy ar yr adeg y cyflwynir y cais
    ffi cydymffurfio o £44, sy'n daladwy ar yr adeg y rhoddir y drwydded
  • Tystysgrif cymeradwyo safle / cerbyd 3 blynedd:
    ffi ymgeisio o £244, sy'n daladwy ar yr adeg y cyflwynir y cais
    ffi cydymffurfio o £141, sy'n daladwy ar yr adeg y rhoddir y drwydded

Taliad

Rydym yn derbyn y dulliau talu canlynol:

  • Cerdyn debyd
  • Siec (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')

Gallwch hefyd dalu trwy BACS:

  • Cod didoli: 52-21-06
  • Rhif cyfrif: 20408838
  • Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2GR

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor.

Cysylltu â ni

Cysylltu â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am help a chyngor.

Gweler hefyd