Os ydych yn dymuno defnyddio tir fel maes carafanau neu safle gwersylla, bydd angen trwydded arnoch.
Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am help a chyngor neu i gael gwybod mwy am gostau.
Gwneud cais
Gallwch wneud cais am drwydded safle gwersylla neu faes carafanau drwy e-bost neu'r post.
Cwblhewch y ffurflen gais briodol a'i dychwelyd atom.
E-bost: [email protected]
Post:
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Gorfodi Tai: Caerdydd
Ystafell 116
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Gwneud cais am drwydded maes carafanau
Gwneud cais am drwydded maes carafanau (PDF, 348 KB)
Gwneud cais am drwydded safle gwersylla
Gwneud cais am drwydded safle gwersylla (PDF, 67 KB)
Ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn:
- 2 fis ar ôl derbyn y cais, neu
6 wythnos os derbynnir caniatâd cynllunio ar ôl i'r cais gael ei wneud.
