Toggle menu

Defnydd dros dro ac achlysurol

Cewch hyd i wybodaeth am hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol.

Hysbysiadau defnydd dros dro

Gall gweithredwr gamblo ddefnyddio'r safle at ddibenion gamblo dros dro, pan nad oes trwydded ar waith. Ymhlith y safleoedd all fanteisio ar hyn mae gwestai, canolfannau arddangos, canolfannau cynadleddau a lleoliadau chwaraeon.

Mae'r hysbysiad yn caniatáu gamblo ar y safle am hyd at 21 diwrnod yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis.

Rhaid i'r hysbysiad gael ei gyflwyno i'r awdurdod trwyddedu o leiaf 3 mis ac 1 diwrnod cyn y diwrnod y bydd y digwyddiad gamblo'n cael ei gynnal, a rhaid copïo'r canlynol i mewn:

  • Y Comisiwn Gamblo
  • yr Heddlu
  • Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; ac, os yn berthnasol
  • unrhyw awdurdod trwyddedu arall yn yr ardal lle mae'r eiddo.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005 (PDF, 515 KB).

Ffurflen gais Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (PDF, 67 KB)

Cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW

 

Faint fydd cost trwydded?

  Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo (PDF, 477 KB)

Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696)
  • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
  • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
    Cod Didoli 52-21-06 ​
    Rhif y Cyfrif. 20408838
    Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​​

Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad

 

Hysbysiadau defnydd achlysurol

Gallwch ddefnyddio hysbysiad defnydd achlysurol os bydd betio'n digwydd am 8 diwrnod neu lai yn ystod y flwyddyn calendr ar y 'trac' ac nad oes trwydded betio trac ar waith.

Dylai perchennog y lleoliad neu'n gweinyddwr digwyddiadau roi gwybod i awdurdod trwyddedu'r cyngor a'r heddlu. Nid oes modd gwrthwynebu ac nid oes cyfyngiad amser ar roi hysbysiad - gallai gael ei roi ar ddiwrnod y digwyddiad.

 

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005. (PDF, 515 KB).

Ffurflen gais hysbysiad defnydd achlysurol (PDF, 14 KB)

Cwblhewch y ffurflen berthnasol a'i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Ddinas,
Caerdydd,
CF10 3ND

 

Faint fydd cost hysbysiad?

Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696)
  • Arian parod (mewn person yn unig, peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post)
  • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
    Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
    Cod Didoli 30-91-63
    Rhif y Cyfrif. 01467509
    Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​

Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

 

Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

Ffôn: 030 0123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.


Trwyddedu Cyngor Caerdydd

Ffôn: 029 2087 1651

Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.