Toggle menu

Cyflwyno sylwadau

Mae gan yr awdurdodau cyfrifol a thrigolion lleol hawl i wneud sylwadau ar gais am drwydded gamblo a chael eu barn wedi'i hystyried gan yr awdurdod trwyddedu, ar yr amod bod y farn honno'n berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

Yr amcanion trwyddedu yw:

  • atal gamblo rhag achosi trosedd ac anrhefn, bod yn gysylltiedig â throsedd neu anrhefn, neu gael ei ddefnyddio mewn ffordd droseddol
  • sicrhau bod gamblo'n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored
  • diogelu plant a phobl fregus eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsploetio gan gamblo

    Rhaid gwneud sylwadau ymhen 28 diwrnod o gyflwyno'r cais. Unwaith y daw'r cais i law'r Awdurdod Trwyddedu, bydd yn trefnu i'r cais gael ei ystyried gan Is-bwyllgor Trwyddedu. Caiff hyn ei hysbysu, a chaiff pobl gyfle i wneud sylwadau ar y cais.

    Ffurflen cyflwyno sylwadau​​ (PDF, 71 KB)

     

    Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom drwy e-bost neu'r post:

    Cyngor Caerdydd, Trwyddedu,
    Enterprise House,
    127 i 129 Stryd Bute,
    Bae Caerdydd,
    Caerdydd,
    CF10 5LE

    E-bost: [email protected]


    Oriau agor

    Dydd Llun i dydd Gwener: 10:00am - 3pm

    Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni

    Cysylltu â ni

    Ffôn: 029 2087 1651