Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae'n rhaid bod gan unrhyw un sydd eisiau gyrru ar draws y palmant er mwyn parcio eu cerbyd ar eu heiddo groesfan gerbydau awdurdodedig.
Beth yw croesfan gerbydau?
Croesfannau cerbydau yw lle mae'r cyrbau'n cael eu gollwng o'u huchder arferol ac mae'r palmant yn cael ei gryfhau i gymryd pwysau cerbyd. Defnyddir croesfannau i osgoi achosi difrod i'r palmant, y pibellau a'r ceblau sydd wedi'u claddu oddi tano.
Mae'n rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i adeiladu croesfan gerbydau.
Os oes gennych groesfan gerbydau yn barod, ond eich bod eisiau ei hymestyn, bydd yn rhaid i chi wneud cais am ganiatâd yn yr un modd.
Beth fydd y gost?
Bydd angen i chi dalu £263 i wneud cais am groesfan. Nid oes modd cael ad-daliad am y ffi hon. Mae'n rhaid gwneud y taliad hwn trwy gerdyn debyd neu gredyd cyn y gellir prosesu eich cais.
Mae'r gost yn cynnwys adolygiad ac asesiad arolygydd, a gweinyddu.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi dyfynbris i chi am y gwaith. Bydd y pris yn amrywio yn dibynnu ar faint y groesfan a'r deunyddiau a ddefnyddir. Bydd y dyfynbris yn cwmpasu cefn y palmant cyhoeddus i flaen y ffordd ar y briffordd gyhoeddus yn unig.
| Math y man croesi | Cost |
|---|---|
| Tarmac Bitwmen (Hyblyg) 6mm | £1,989.40 |
| Asffalt wedi'i rolio poeth | £2,039.40 |
| Cerrig Palmant Modwlar | £2,039.40 |
| Concrid | £2,064.40 |
| Math y man croesi | Cost |
|---|---|
| Tarmac Bitwmen (Hyblyg) 6mm | £2,984.40 |
| Asffalt wedi'i rolio poeth | £3,064.40 |
| Cerrig Palmant Modwlar | £3,064.40 |
| Concrid | £3,104.40 |
Mae'r gost yn cynnwys deunyddiau, llafur a gweinyddu.
Sut mae gwneud cais
Gallwch wneud cais am groesfan gerbydau ar-lein.
Cais am fan croesi i gerbydau: Telerau ac Amodau
- Caiff pob safle ei asesu'n unigol ac yn erbyn safonau presennol y Cyngor. Nid yw gosodiadau tebyg mewn ardal leol yn golygu y caiff eich cais ei gymeradwyo'n awtomatig. Nid yw mannau croesi hŷn, hanesyddol yn yr un ardal o reidrwydd yn golygu y caiff man croesi newydd ei gymeradwyo.
- Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am yr holl gostau adeiladu ar gyfer y man croesi gan gynnwys yr holl ffioedd. Os ydych wedi'ch cofrestru'n anabl efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Grant Cyfleusterau i'r Anabl ac fe'ch hysbysir i gysylltu â Therapi Galwedigaethol ar 029 2023 4222 am ragor o wybodaeth.
- Mae angen caniatâd ar gyfer pob man croesi cyn cychwyn unrhyw waith.
- Cyngor Caerdydd neu'n contractwr enwebedig fydd yr unig ddarparwr cyrbau isel/mannau croesi sy'n caniatáu i gerbydau a yrrir yn fecanyddol (Car, Fan, Beic Modur) groesi dros y briffordd gyhoeddus i fynd i'ch dreif/eiddo.
- Nid yw Cyngor Caerdydd na'n contractwr enwebedig yn gyfrifol am waliau dreif, gerddi neu unrhyw waith ychwanegol arall oddi ar y briffordd fabwysiedig.
- Mae'n rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer pob man croesi i gerbydau ar lwybrau Dosbarthedig. Mae'n rhaid cael copi o'r caniatâd cynllunio cyn y gellir gwneud cais am fan croesi i gerbydau. Cysylltwch â'r Adran Gynllunio ar 029 2233 0800 i gael rhagor o wybodaeth.
- Os ydych yn denant y Cyngor, Tai neu Breifat, mae'n rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol gan eich landlord ar gyfer man croesi i gerbydau. Mae'n rhaid cael caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir cymeradwyo'r cais.
- O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, ni chaniateir i ddŵr lifo o eiddo preifat ar draws troedffordd ar i'r briffordd. Bydd rhaid cyfeirio dŵr wyneb o'ch eiddo i system ddraeniau o fewn ffiniau eich eiddo eich hun.
- Os nad yw'n rhydyllog, bydd rhaid cael Caniatâd Cynllunio ar gyfer yr arwyneb ar eich llawr caled, ffoniwch yr Adran Gynllunio ar 029 2233 0800 i gael rhagor o wybodaeth.
- Oherwydd y posibilrwydd o gyfyngu nifer y lleoedd parcio ar y stryd i'r gymuned ehangach, ni chaniateir gwasanaethu un eiddo â dau fan croesi, oni bai y gellir profi bod hynny o fudd uniongyrchol i ddiogelwch neu os nad yw hynny'n debygol o gael effaith andwyol ar y cyfleusterau parcio ar y stryd.
- Os yw ymgeisydd yn symud man croesi cerbydau presennol o fewn tir blaen ei eiddo, rhoddir dyfynbris i'r ymgeisydd ailosod y droedffordd yn lleoliad yr hen fan croesi.
- Mae'n debygol iawn y caiff Man Croesi Cerbydau ei wrthod os bwriedir mynd ati drwy le parcio sy'n bod eisoes, neu le parcio i breswylwyr.
- Os yw'r man croesi arfaethedig yn agosach na 10 metr at gyffordd gallai greu perygl difrifol a gellid gwrthod y cais. Os yw'r eiddo wedi ei leoli yn union ar y gyffordd i ddwy heol fe fydd yn gyffredinol yn fwy diogel i osod y fynedfa ar y ffordd ymyl lai.
- Ni chaiff unrhyw fan croesi unigol fod yn fwy na 3 metr o led. (Y lleiafswm yw 2.4m). Ni chaiff unrhyw fan croesi dwbl fod yn fwy na 4.8 metr o led. Mae'n rhaid i ddyfnder y cwrt blaen fod yn 4.8 metr o leiaf, er mwyn sicrhau nad yw cerbydau'n ymwthio allan dros y droedffordd gyhoeddus. Gall cerbydau sy'n ymwthio allan dros y droedffordd fod yn destun erlyniad. Rhaid parcio cerbydau ar yr eiddo ar 90 gradd i'r cwrbyn er mwyn cynorthwyo gyda symud cerbydau.
- Dylid adeiladu pen blaen y llawr caled ar y dramwyfa i gyd-fynd â lefel ymyl cefn y droedffordd bresennol. Mae hyn yn lleihau'r posibilrwydd y bydd dŵr o'r briffordd yn llifo i'r eiddo preifat. Efallai y bydd yn rhaid i berchenogion tai addasu lefel y tir o fewn ffin eu heiddo i sicrhau bod ramp digonol i atal ochr isaf cerbydau rhag crafu yn erbyn y llawr caled wrth ddefnyddio'r man croesi i fynd i mewn ac allan o'r eiddo.
- Gall cambr uchel iawn neu fan croesi i gerbydau ar ogwydd sylweddol hefyd achosi problemau ar gyfer un ai bargodiad pen blaen neu ôl y cerbyd. Gall lefelau'r tir a goleddfau presennol gyfyngu ar y math o gerbyd a all ddefnyddio man croesi penodol.
- Os oes gennych borth, ffenestri bae, neu risiau yn arwain at eich drws ffrynt, yna bydd rhaid ystyried y rhain wrth bennu faint o le sydd gennych i barcio eich car. Hefyd, efallai y bydd angen ystyried safle eich drws ffrynt yn eich cais, ac a oes lle ar gael ar ochr eich tŷ o fewn ffiniau eich eiddo.
- Os oes unrhyw gelfi stryd (megis polion lamp, safleoedd bysus ac ati) yn agos i'r gwaith a fwriedir, bydd y cais yn destun ymchwiliad gan y Cyngor i asesu'r rheidrwydd ac ymarferoldeb o sicrhau bod 1m rhwng y man croesi ac unrhyw gelfi stryd. Rhaid i unrhyw wal neu ffens sy'n union y tu cefn i gelfi stryd aros i warchod y celfi stryd. Os bydd rhaid symud celfi stryd, yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am dalu costau'r gwaith hwn.
- Ni chaiff Coed Stryd eu tynnu i wneud lle ar gyfer man croesi i gerbydau. Os yw'r man croesi yn debygol o effeithio ar wreiddiau coeden, yna caiff y cais ei wrthod.
- Os oes safle bws, nodweddion arafu traffig (twmpathau ffordd), croesfan sebra/pelican, neu gyfleuster croesi isel i bobl agored i niwed yn uniongyrchol y tu allan i'ch eiddo, mae'n bosib na chaiff eich cais ei gymeradwyo.
- Os ydych yn bwriadu gosod gatiau ar eich tramwyfa, mae'n rhaid i'r gatiau agor i mewn i'ch eiddo.
- Caiff mannau croesi eu cymeradwyo ar y sail y bydd cerbydau'n gyrru â'u trwynau am ymlaen at y briffordd.
- Os gwrthodir caniatâd am unrhyw reswm, does dim proses i apelio. Gallwch ofyn am adolygiad y bydd yn rhaid gwneud cais amdano a nodi'r rhesymau pam nad yw'r gwrthodiad yn cydymffurfio â'r Telerau ac Amodau. NI CHAIFF y ffi weinyddol ar gyfer eich cais ei had-dalu.
- Os bydd y cais hwn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dyfynbris a bydd angen derbyn y dyfynbris o fewn 6 mis.
- Er mwyn cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, bydd Cyngor Caerdydd yn gwirio gyda chwmnïau cyfleustodau am unrhyw waith neu offer tanddaearol y gallai'r gwaith effeithio arnynt.
Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r sefydliadau hyn pe bai gennych unrhyw bryderon pellach ynghylch cyfarpar yn eich tir preifat eich hun:
- BT
- Virgin Media
- Y Grid Cenedlaethol
- Western Power Distribution
- Network Rail
- Wales and West Utilities
- Dŵr Cymru
- Vodafone
- Asiantaeth yr Amgylchedd - Cyfoeth Naturiol Cymru
Bydd angen i chi cael caniatâd cynllunio ar gyfer man croesi i gerbydau ar ffordd ddosbarthiadol. Mae ffyrdd dosbarthiadol yn briffyrdd sy'n fwyaf addas ar gyfer traffig, er enghraifft Ffordd y Faenor (A470).
Ni, neu ein contractwr enwebedig, fydd yr unig ddarparwr cyrbau isel neu groesfannau fydd yn caniatáu i gerbydau groesi dros y briffordd gyhoeddus i fynd i mewn i'ch dreif neu eiddo. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n contractwyr enwebedig i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'n safonau a'n hamserlenni disgwyliedig.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd angen i ni asesu eich cais i sicrhau eich bod wedi darparu'r holl fanylion sydd eu hangen arnom.
Byddwn yn dod i'ch eiddo i archwilio a phenderfynu a ddylid cymeradwyo'r groesfan arfaethedig. Os cymeradwyir y groesfan, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda dyfynbris ar gyfer adeiladu a'r telerau ac amodau.
Tua 4 i 8 wythnos ar ôl i ni dderbyn y taliad, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad addas i ddechrau'r gwaith adeiladu.
