Toggle menu

Sut a ble y gallaf dalu fy ardrethi busnes?

Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau isod:

Trefnu Debyd Uniongyrchol

Mae trefnu debyd uniongyrchol i dalu'ch bil Ardrethi Busnes yn gyflym ac yn hawdd. Rydym yn cynnig pedwar dyddiad talu, a gallwch ddewis talu dros 12 mis.

Lawrlwythwch ffurflen gais debyd uniongyrchol (PDF, 84 KB) neu cwblhewch y mandad debyd uniongyrchol ar gefn eich bil Ardrethi Busnes.

Fel arall cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2087 1491.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar ôl eu cwblhau i:

Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Talu'ch bil ar-lein

Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu'ch bil Ardrethi Busnes.

Sicrhewch fod eich rhif cyfrif a'ch manylion talu wrth law gennych. Mae rhif eich cyfrif yn 11 digid o hyd ac yn dechrau gyda 1.

talu ar-lein

System daliadau awtomatig dros y ffôn

Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon. Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:

  • rhif cyfrif eich Ardrethi Busnes,
  • eich Cerdyn Debyd neu Gredyd,
  • y swm rydych am ei dalu.

Ffoniwch 029 2044 5900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.

Cyfrif banc

Dyfynnwch eich cyfeirnod cyfrif ardrethi 11 digid gydag unrhyw daliad.

Banc Dinas a Sir Caerdydd yw Natwest Bank PLC, 96 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2GR.

Cod didol: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838

IBAN: GB21 NWBK 5221 0620 4088 38
Swift: NWBKGB2L

Gellir e-bostio hysbysiad talu i [email protected].

Drwy'r post

Anfonwch eich siec ynghyd â'ch cerdyn talu i:

Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Dylid croesi sieciau a'u gwneud yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd'. Ni ddylid anfon sieciau at unrhyw swyddog unigol.

Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.

Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 1491