Toggle menu

Gwelliannau i Stryd y Castell

Rydym wedi ymgynghori o'r blaen ar y newidiadau i Stryd y Castell ac rydym yn y broses o benodi contractwr i wneud y gwaith gwella.

Rydym eisiau gwybod a oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y bydd y gwaith yn effeithio arnoch chi.

Y gwelliannau sy'n cael eu gwneud

Byddwn yn uwchraddio'r feicffordd dros dro i greu beicffordd ar wahân barhaol ar hyd Stryd y Castell ac yn gwella: 

  • safleoedd bws ar hyd Ffordd y Brenin a Heol y Gogledd,
  • palmentydd, 
  • draenio, 
  • goleuadau stryd,
  • arwyddion, ac
  • arwyneb y ffordd. 

Bydd y feicffordd newydd yn aros ar ochr ogleddol Stryd y Castell.  Bydd angen i ni wneud newidiadau i gyffyrdd allweddol a newidiadau bach i'r mannau llwytho.

Ni fydd unrhyw newidiadau mawr i drefn y lonydd. 

Rydym wedi gwneud gwaith helaeth i fodelu'r traffig er mwyn sicrhau bod Stryd y Castell yn bodloni gofynion ansawdd aer a chanllawiau teithio llesol. 

Gweler map o'r ardal yr effeithir arni ar Stryd y Castell (PDF, 311 KB).

Gwybodaeth am y gwelliannau:​

Cyffordd Heol y Porth

  • Dechrau beicffordd wedi'i gwahanu'n llawn i gysylltu â'r un dros dro presennol
  • Newid i drefn y lonydd i ddarparu lôn gyfunol ar gyfer troi i'r chwith a mynd syth ymlaen o Stryd y Castell i Heol y Porth
  • Diwygiadau i'r groesfan i gerddwyr
  • Gosod palmant newydd
  • Gwella lleoliad a maint y blwch melyn
  • Lôn feicio newydd o Heol y Porth drwy'r gyffordd gyda goleuadau traffig i feicwyr

Gweler dyluniad y newidiadau i gyffordd Heol y Porth a Stryd y Castell (PDF, 511 KB).

Cyffyrdd Stryd Womanby ac Arcêd y Castell

  • Newidiadau i'r lôn gerbydau a'r droedffordd yn Stryd Womanby ac Arcêd y Castell
  • Beicffordd wedi'i gwahanu'n llawn yn parhau
  • Cyfleusterau parcio beiciau
  • Ymestyn y lôn fysus bresennol hyd at ddiwedd y gilfan fysus
  • Lloches bws to gwyrdd arfaethedig
  • Adnewyddu'r palmant

Gweler dyluniad y newidiadau i gyffyrdd Stryd y Castell â Stryd Womanby ac Arcêd y Castell (PDF, 398 KB).

Cyffordd y Stryd Fawr

  • Gwelliannau i'r palmentydd
  • Tacluso'r celfi stryd wrth fynedfa Castell Caerdydd
  • Trefn bolardiau newydd (i'w gadarnhau)
  • Beicffordd wedi'i gwahanu'n llawn yn parhau
  • Lôn fysus bresennol i aros
  • Mân ddiwygiadau i'r man llwytho
  • Gwelliannau i'r palmant a thacluso celfi stryd wrth gyffordd y Stryd Fawr
  • Cyfuno'r man llwytho a'r safle tacsi i greu un man mwy o faintLôn fysus bresennol i aros

Gweler dyluniad y newidiadau i gyffordd y Stryd Fawr a Stryd y Castell (PDF, 342 KB).
 

Cyffordd Heol y Frenhines

  • Aildrefnu'r groesfan i gerddwyr i gyd-fynd â'r llwybr a ffefrir i Heol y Frenhines
  • Beicffordd wedi'i gwahanu'n llawn yn parhau
  • Tirlunio â blodau gwyllt
  • Cyfuno'r man llwytho a'r safle tacsi i greu un man mwy o faint
  • Lôn fysus bresennol i aros
  • Lloches bws to gwyrdd arfaethedig

Gweler dyluniad y newidiadau i gyffordd Heol y Frenhines a Stryd y Castell (PDF, 412 KB).

Cyffordd Ffordd y Brenin 

  • Newidiadau i safleoedd bws
  • Lloches bws to gwyrdd
  • Ynys fysus
  • Croesfan sebra ar y feicffordd i'r ynys fysus
  • Croesfan a reolir i'r ynys fysus
  • Tirlunio â blodau gwyllt
  • Cyflwyno lôn troi i'r dde ar gyfer bysus yn unig o Ffordd y Brenin i Stryd y Castell/Heol y Gogledd (yr A4161)
  • Tynnu 2 goeden a phlannu coed newydd gerllaw

Gweler dyluniad y newidiadau i gyffordd Ffordd y Brenin a Stryd y Castell (PDF, 548 KB).

Newidiadau ger Castell Caerdydd

Bydd unrhyw newidiadau gerllaw'r castell yn destun cais Caniatâd Heneb Gofrestredig. Bydd CADW yn prosesu'r cais.

Byddwn ond yn defnyddio deunyddiau sy'n briodol ar gyfer y safle hanesyddol. 

Pryd fydd y gwaith yn digwydd?

Y bwriad yw dechrau'r gwaith ym mis Ionawr 2026, ac mae disgwyl iddo barhau tan fis Ionawr 2027. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau unwaith y byddwn wedi penodi contractwr.

Rydym yn bwriadu dechrau'r gwaith wrth gyffordd Ffordd y Brenin a gweithio tuag at Heol y Porth. 

Rheoli traffig a mynediad

Bydd y contractwr yn gyfrifol am: 

  • Gynnal mynediad i bob busnes a phreswylfa.
  • Cynllunio a gweithredu'r mesurau rheoli traffig sydd eu hangen i wneud y gwaith.

Bydd traffig dwyffordd ar Stryd y Castell yn cael ei gynnal pan fo hynny'n bosibl. Efallai y bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod i ganiatáu i rannau o'r cynllun gael eu hadeiladu'n ddiogel.

Bydd mynediad i siopau ac adeiladau yn cael ei gynnal drwy gydol y gwaith.  Byddwn yn gweithio gyda busnesau i sicrhau nad oes effaith ar ddanfoniadau.

Adroddiad Ymgysylltu

Fe wnaethom ymgysylltu â'r cyhoedd rhwng 26 Tachwedd 2025 a 5 Ionawr 2026.

Mae'r adroddiad ymgysylltu yn crynhoi'r adborth a gawsom gan drigolion, busnesau a rhanddeiliaid. Cawsom 10 o ymatebion. Mae'r adroddiad yn darparu'r sylwadau, barn a phryderon a godwyd.

Yn dilyn yr adborth a gawsom, rydym wedi dod i'r casgliad y dylid bwrw ymlaen â'r cynllun, gyda nifer o gamau gweithredu i fynd i'r afael â phryderon a godwyd trwy:

  • ddatblygu dyluniad manwl,
  • cynllunio adeiladu, ac
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid yn barhaus.

Y prif bwyntiau a adlewyrchwyd yn yr adborth oedd:

  • Pwysigrwydd cynnal mynediad i fusnesau, cwsmeriaid, danfoniadau a gwasanaethu yn ystod y gwaith adeiladu. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt ac yn gwneud yn siŵr bod y gwaith adeiladu yn cael ei reoli'n ofalus er mwyn helpu i leihau'r tarfu cymaint â phosibl.
  • Pryderon y gallai ailddyrannu gofod ffyrdd waethygu tagfeydd ac effeithio ar symudiadau cerbydau argyfwng. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol ac yn monitro perfformiad y rhwydwaith wrth i'r cynllun fynd rhagddo.
  • Cefnogaeth i wella'r seilwaith beicio ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau eraill. Roedd hyn yn cynnwys pwyntiau ar barcio beiciau, trefniadau croesi a diogelwch cerddwyr. Byddwn yn parhau i adolygu'r dyluniad i helpu i sicrhau bod y cynllun yn darparu cyfleusterau diogel ac effeithiol i bob defnyddiwr.

Gallwch weld y cynigion wedi'u diweddaru, ein camau gweithredu a'r camau nesaf yn yr adroddiad ymgysylltu llawn (PDF, 276 KB).