Gallwch weld y ffyrdd gwahanol y gallech wella effeithlonrwydd ynni eich cartrefi. Gallwch weld sgôr perfformiad ynni eich eiddo trwy fynd i wefan GOV UK.
Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw.
Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i'ch helpu i:
- leihau eich biliau ynni,
- cynyddu eich incwm, a
- lleihau eich ôl troed carbon.
Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, fel:
- inswleiddio,
- pwmp gwres,
- baneli solar, neu
- atgyweirio neu osod boeleri newydd (ar gyfer aelwydydd cymwys yn unig).
Dysgwch fwy am y Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhadffôn: 0808 808 2244
Cymru Gynnes
Mae Cymru Gynnes yn cynnig gwasanaeth cyngor a chymorth ynni rhad ac am ddim a diduedd.
Dysgwch fwy am y gwasanaeth ar wefan Cymru Gynnes.
Ffôn: 0800 091 1786
ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) a Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr
Os ydych chi'n berchen ar eich cartref neu'n ei rentu'n breifat, gallech gael cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni os ydych chi neu rywun ar eich aelwyd yn derbyn budd-dal sy'n seiliedig ar brawf modd.
Gallwch ddysgu mwy o ECO4 a Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr ar wefan GOV.UK.
Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw.
Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i'ch helpu i:
- leihau eich biliau ynni,
- cynyddu eich incwm, a
- lleihau eich ôl troed carbon.
Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, fel:
- inswleiddio,
- pwmp gwres,
- baneli solar, neu
- atgyweirio neu osod boeleri newydd (ar gyfer aelwydydd cymwys yn unig).
Dysgwch fwy am y Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhadffôn: 0808 808 2244
Cartrefi Gwyrdd Cymru
Os ydych chi'n berchen ar eich cartref, gallech chi gael benthyciad di-log rhwng £1,000 a £25,000 ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni trwy gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru Llywodraeth Cymru, gyda thelerau ad-dalu hyd at 10 mlynedd.
Darllenwch fwy am Cartrefi Gwyrdd Cymru ar wefan Banc Datblygu Cymru.
Cynllun Uwchraddio Boeleri
Os ydych chi'n berchen ar eich cartref, gallwch wneud cais am grant i dalu rhan o'r gost o uwchraddio eich system wresogi i system fwy effeithlon.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan GOV UK.
