Toggle menu

Diogelu

Diogelu yw amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod plant ac oedolion yn mwynhau iechyd da, yn datblygu'n dda ac yn chwarae rôl lawn a gweithredol yn eu cymunedau.

Pwy sy'n gyfrifol am ddiogelu?

Rydym oll yn gyfrifol dros sicrhau bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn aros yn ddiogel.

Golyga hyn y dylem ni i gyd sicrhau ein bod yn gwybod beth yw diogelu a phryd mae angen i ni wneud rhywbeth i atal cam-drin rhag digwydd.

Sut rydym yn diogelu?

Er mwyn diogelu, rhaid i ni:

  • Adnabod y gwahanol fathau o gam-drin;
  • Adnabod yr arwyddion, symptomau ac ymddygiad a allai fod yn arwydd bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei fod mewn risg o niwed;
  • Deall beth dylem ei wneud os ydym yn pryderu bod plentyn neu oedolyn mewn risg;
  • Deall ein cyfrifoldeb o ran amheuaeth neu ddatgelu cam-drin;
  • Deall ein dyletswydd i adrodd am bryder neu ddigwyddiad pan ddown i wybod amdano.

Pa ffurf sydd i gam-drin?

Mae cam-drin ac esgeuluso yn ffurfiau o drin plentyn neu oedolyn yn anghywir. Gellir disgrifio'r rhain mewn pum categori:


Cam drin corfforol

  • Gall hyn gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi neu fygu neu achosi niwed corfforol i blentyn neu oedolyn.


Cam-drin rhywiol

Gorfodi neu ddenu plentyn neu oedolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, a hwnnw'n ymwybodol ai peidio o'r hyn sy'n digwydd. Gall hyn gynnwys:

  • cyswllt corfforol, gan gynnwys treiddio neu ddim;
  • dim cyswllt corfforol, megis cynnwys plentyn neu oedolyn yn edrych ar neu yn rhan o gynhyrchu deunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol; neu
  • annog oedolion neu blant i ymddwyn yn rhywiol mewn ffyrdd sy'n rhywiol amhriodol.


Esgeuluso

  • Esgeuluso yw peidio ag ateb anghenion sylfaenol corfforol a/neu seicolegol plentyn neu oedolyn, sy'n debygol o arwain at niweidio ei iechyd neu ei ddatblygiad yn ddifrifol.
  • Gall hyn gynnwys rhiant, aelod y teulu neu ofalwr yn peidio â rhoi digon o fwyd, dillad na lloches ddigonol, peidio â diogelu plentyn neu oedolyn rhag niwed corfforol neu berygl neu beidio â sicrhau y caiff ofal neu driniaeth ddiogel.
  • Gall hefyd gynnwys esgeuluso neu beidio ag ymateb i anghenion emosiynol plentyn neu oedolyn.


Cam-drin emosiynol

  • Trin plentyn neu oedolyn yn wael yn emosiynol, nes achosi effaith negyddol ddifrifol a pharhaus ar ei ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol.
  • Gall hyn gynnwys dweud wrth y plentyn neu'r oedolyn ei fod yn ddiwerth neu nad oes unrhyw un yn ei garu, ei fod yn annigonol neu na chaiff ei werthfawrogi onid yw'n ateb anghenion rhywun arall.
  • Gall gynnwys codi ofn ar blant neu oedolion neu wneud iddynt deimlo mewn perygl, er enghraifft drwy fod yn dyst i gam-drin domestig yn y cartref neu gael eu bwlio, neu drwy ecsploetiaeth neu lygredigaeth.


Cam-drin ariannol

  • Dwyn arian neu eiddo;
  • Twyllo ariannol e.e. cynllwynion ariannol
  • Cael ei roi dan bwysau i dalu am bethau er budd rhywun arall
  • Defnyddio arian rhywun arall fel arian ei hun.
  • Plant yn ennill arian trwy ddigwyddiadau adloniant a'r arian hwnnw ddim yn mynd i ymddiriedolaeth.

Mae ffurfiau eraill ar gam-drin, megis bwlio, priodas orfodol, Anffurfio Organau Rhywiol Merched, caethwasiaeth fodern, camfanteisio rhywiol a radicaleiddio.

Beth dylech ei wneud os ydych yn meddwl bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn risg o gael ei gam-drin

Os ydych yn credu bod plentyn neu oedolyn yn cael ei gam-drin, mae'n rhaid i chi ddweud wrth rywun.

Os ydych yn credu bod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, ymatebwch yn syth - ffoniwch 999 a dweud wrth y gweithredwr ffôn beth sy'n digwydd.


Oedolion

Os ydych yn meddwl neu'n credu bod oedolyn yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'r tîm diogelu Oedolion ar 029 2233 0888.


Plant

Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl, nad yw'n cael gofal cywir neu os oes gennych bryderon ynghylch ei les, cysylltwch â ni ar 029 2053 6490.


Y tu allan i oriau swyddfa

Os oes gennych bryderon y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 029 2078 8570.