Gellir darparu cymorth a chyngor yn ystod pob cam o'r broses fuddsoddi, i gynorthwyo twf economaidd yng Nghaerdydd. Gellir cyflwyno ffynonellau cyngor arbenigol hefyd. Mae'r holl gymorth ariannol yn ddewisol. Ym mhob achos, mae angen cais wedi'i gofnodi'n llawn fydd yn cynnwys trafodaethau gyda swyddog o'r Tîm Busnes a Buddsoddi.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda chymorth ariannol tuag at baratoi eich cynllun busnes.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2078 8498
