Toggle menu

Hygyrchedd ein ap

Lansiwyd ap CardiffGov yn 2018 ac mae'n rhoi swyddogaeth i gwsmeriaid anfon adroddiadau, gwirio casgliadau gwastraff a rheoli treth gyngor.

Fersiwn ddiweddaraf o'r ap: Mehefin ​2026

Mwy o wybodaeth am ap Cyngor Caerdydd​.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ap Cyngor Caerdydd. Mae gennym hefyd ddatganiad hygyrchedd ar gyfer ein wefan.

Cynhelir yr ap hwn gan Gyngor Caerdydd. ​​Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r ap hwn.

Er enghaifft, mae hynny'n golygu y dylech allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau, 
  • llywio'rrhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, 
  • llywio'r rhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio darllenydd sgrin. 

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar yr ap mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan yr elusen AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. ​

Pa mor hygyrch yw'r ap hwn

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r ap hwn yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:

  • Porth y Dreth Gyngor
  • E-daliadau
  • Map ar-lein i-share ​

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y rhaglen hon ar gyfer dyfeisiau symudol mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.

Adrodd problemau hygyrchedd o ran yr ap hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr ap hwn. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

www.caerdydd.gov.uk/adborthamyrap​

Neu e-bostiwch at [email protected]

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018​ (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb)​.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo trwy Video Relay Service gan Sign Video i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Dysgwch sut y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd..

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei ap yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

​Mae'r ap hwn yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rhestrir gweddill y meysydd diffyg cydymffurfio yn y tabl.

Cynnwys nad yw'n hygyrch ​​

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.​​

1.3.1 Gwybodaeth a pherthnasoedd

Testun sy'n edrych fel pennawd, labeli sy'n gysylltiedig â rhaglenni a labeli dal lle

​Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin ar iOS ac Android, nid yw testun sy'n ymddangos yn weledol fel pennawd yn darllen fel pennawd. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.​

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad a cheisio atgyweiriadau.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Rhagfyr 2026.

Rheolyddion 

Nid yw rheolyddion yn gysylltiedig â'u cynnwys perthnasol.

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Mae sawl botwm ar y dudalen (Golygu) a allai fod yn amwys i ddefnyddwyr dall / defnyddwyr ag amhariad ar y golwg sydd angen cymorth troslais. Mae angen mwy o ddisgrifiadau er mwyn iddynt allu deall eu pwrpas.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.

Nid oes rolau i elfennau ffurflen

Mae canlyniadau chwilio yn elfennau rhyngweithiol y gellir clicio arnynt, ond nid oes ganddynt rôl, fel 'botwm'. 

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, bydd pwrpas rhai elfennau'n aneglur.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.

 

1.4.3 Cyferbyniad lliw

Nid yw'r cyferbyniad rhwng y testun glas golau a'r cefndir gwyrdd tywyll yn bodloni'r safon ofynnol.

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os oes gennych amhariad ar eich golwg, gallai hyn fod yn anodd i chi ei ddarllen. 

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.

 

1.4.4 Newid maint y testun - testun dalfan wedi'i dorri i ffwrdd yn rhanno

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr:

Os ydych yn defnyddio iOS neu Android ni fyddwch yn gallu chwyddo maint testun i 200% ar y maes 'Rhowch rhan o gyfeiriad'. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.

Camau a gymerwyd: Mae'r rhan fwyaf o feysydd yr ap lle achosodd hyn broblem wedi'u trwsio, fodd bynnag, pan fydd y testun wedi'i osod i'r maint mwyaf mae'n achosi problem ar y maes 'Rhowch rhan o gyfeiriad'.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Rhagfyr 2026.

 

1.4.11 Cyferbyniad elfennau nad ydynt yn destun

Nid yw'r lliw a ddefnyddir ar gyfer amlinelliad y meysydd golygu ar y cefndir gwyn yn bodloni canllawiau WCAG 2.2 ar gyfer cyferbyniad elfennau nad ydynt yn destun. 

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os oes golwg gwan gennych, efallai na fyddwch yn gallu gwahaniaethu rhyngddynt gan fod cyferbyniad y lliwiau'n wael.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.

 

2.1.1 Bysellfwrdd

Opsi​ynau dewis

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android ni fyddwch yn gallu dewis cyfeiriad na dewis canslo. Mae hyn yn effeithio ar yr holl swyddogaethau chwilio am gyfeiriad yn yr app.

Camau a gymerwyd: Mae hyn yn nodwedd greiddiol i Android. Ymchwiliwyd i nifer o newidiadau posibl i ddatrysiadau. Mae datblygwyr Caerdydd wedi dod i'r casgliad na fyddai'r un o'r rhain yn trwsio'r byg.

Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad Android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026 - Monitro trwsiad Android. I'w adolygu fis Rhagfyr 2026.

Dolenni

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r dolenni yn natganiad preifatrwydd y Dreth Gyngor, yn nhelerau ac amodau'r canolfannau ailgylchu nac ar dudalennau telerau ac amodau casgliadau swmpus.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad a cheisio atgyweiriadau.

Canlyniad: Heb ei drwsio ar hyn o bryd.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Rhagfyr 2026.

2.4.3 Trefn ffocws

Ddim ar gael i adrodd ar ap.

Camau a gymerwyd: Mater rheoli iOS creiddiol. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o'i drwsio.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026. Mynd ati i fonitro'n weithredol am drwsiad iOS. Ailedrych ac adolygu ym mis Rhagfyr 2026.​

 

3.2.1 Ar ffocws - dewislenni

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o'r cwymplenni drwy'r app.

Camau a gymerwyd: Ymchwilio ac ymdrechion i ddatrys.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mehefin 2026. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Rhagfyr 2026.

4.1.2 Enw, rôl, gwerth

Cyflwr presennol

Nid yw cyflwr presennol y rheolydd yn cael ei ddisgrifio i ddefnyddwyr darllenydd sgrin.

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol i ddarllen y sgrin, nid yw cyflwr presennol y rheolydd yn cael ei wneud yn glir i chi. 

Gall hyn fod yn broblem i ddefnyddwyr dall neu ddefnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg gan na fyddent efallai'n gwybod bod mwy o opsiynau ar gael. 

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026. 

Cynnwys anhygyrch

Ni all defnyddwyr darllenydd sgrin gyrchu na gweithredu peth o'r cynnwys. 

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Mae cynnwys yn bresennol na ellir ei gyrchu trwy feddalwedd darllen sgrin. Pan fydd defnyddwyr darllenwyr sgrin yn llywio drwy'r dudalen yn ei threfn, ni allant weithredu'r botwm cyfeiriad e-bost.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.
 

4.1.3 Neges statws

Pan gaiff gwallau eu gwneud ar y dudalen, nid ydynt yn cael eu cyhoeddi i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ar unwaith. 

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n ddall neu ag amhariad ar eich golwg, bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl trwy'r tudalennau i gyrchu'r gwallau rydych chi wedi'u gwneud.
Camau a gymerwyd: Ymchwiliad ar y gweill.

Canlyniad: Datblygwyr Caerdydd yn gweithio ar atgyweiriad. 

Cynllun: Adolygu ym mis Rhagfyr 2026.

 

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella Hygyrchedd 

Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir. Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 17 Gorffennaf ​2026​.​

Cafodd yr ap hwn ei phrofi ddiwethaf ym mis Mawth 2026 gan DAC (Digital Accessibility Centre)​​.

Cynhaliwyd profion cynharach ar​:

Gweld Adroddiad Hygyrchedd DAC ar gyfer App Gov Caerdydd - Android (PDF, 1 MB)

Gweld Adroddiad Hygyrchedd DAC ar gyfer App Gov Caerdydd - iOS (PDF, 1 MB)

Darganfyddwch sut mae DAC yn cynnal eu profion​​.